Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol

 

Y sefyllfa bresennol

 

Mae cofnod amgylchedd hanesyddol (CAH) yn storio gwybodaeth wedi'i threfnu mewn modd systematig am yr amgylchedd hanesyddol mewn ardal benodedig ac yn galluogi pobl  i weld y wybodaeth honno. Caiff ei gynnal a'i ddiweddaru er budd y cyhoedd yn unol â safonau a chanllawiau cenedlaethol a rhyngwladol.

 

Mae CAHau yng Nghymru yn darparu ffynhonnell o wybodaeth - ac yn cyfeirio at wybodaeth - sy'n ymwneud â thirweddau, adeiladau, safleoedd a chanfyddiadau sy'n berthnasol i dros 200,000 o flynyddoedd o weithgarwch dyn. Gall cofnodion gynnwys safleoedd archaeolegol, olion claddedig, hap ganfyddiadau, gwaith cloddio, ardaloedd lle ceir tirweddau o bwys, adeiladau a henebion sefydlog.

 

Nid yw CAHau yn archifau parhaol, ond maent yn tynnu gwybodaeth ynghyd ac yn cyfeirio defnyddwyr at adnoddau manwl mewn llefydd eraill. Felly, mae'r wybodaeth a ddelir ar gronfeydd data a chasgliadau CAHau yn darparu man cychwyn ar gyfer:

·         helpu i gadw, rheoli a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol;

·         llywio penderfyniadau cynllunio strategol a rheoli datblygiadau;

·         cefnogi gwaith adfywio ar sail treftadaeth; 

·         cefnogi gwaith maes a gwaith ymchwil i'r amgylchedd hanesyddol.

Mae'r CAHau hefyd yn gweithredu fel ffynonellau gwybodaeth sylfaenol, pwysig i gymunedau lleol am eu treftadaeth leol.

 

Ar hyn o bryd, mae pedwar CAH rhanbarthol sydd, gyda'i gilydd, yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr am Gymru gyfan:

·         CAH Clwyd-Powys

·         CAH Dyfed

·         CAH Morgannwg-Gwent

·         CAH Gwynedd.

 

Crëwyd y CAHau rhanbarthol gan yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru cyfatebol, a sefydlwyd yn y 1970au, ac maent wedi'u diweddaru'n rheolaidd.

 

Mae Cymdeithas Swyddogion Archaeolegol Llywodraeth Leol y DU (ALGAO-UK) wedi datblygu cyfres o feincnodau/safonau ar gyfer CAHau yn y DU. Gyda newidiadau a diweddariadau priodol, y cytunwyd arnynt gyda Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC), fe'u mabwysiadwyd yng Nghymru gan y pedair Ymddiriedolaeth ac ALGAO-Cymru. Yn 2010, gofynnodd Cadw i CBHC gomisiynu archwiliad annibynnol o'r pedwar CAH rhanbarthol i'w profi yn erbyn meincnod lefel gyntaf y safonau hyn. Cafwyd bod pob un ohonynt yn cyrraedd y safon briodol, er i bryderon gael eu codi mewn rhai achosion o ran lefel yr adnoddau staff penodol a oedd ar gael er mwyn cynnal y cofnod.

 

Roedd y broses o baratoi'r canllawiau statudol drafft, Rheoli Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru, yn cynnwys adolygiad a diweddariad o'r safonau a'r meincnodau ar gyfer CAHau yng Nghymru er mwyn ystyried y newidiadau mewn safonau rheoli data cenedlaethol a gofynion deddfwriaeth yr amgylchedd hanesyddol. Arweiniwyd yr adolygiad gan CBHC ac ymgynghorwyd â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru.  Mae archwiliad o'r pedwar CAH rhanbarthol yn erbyn y meincnodau hyn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, wedi'i reoli gan CBHC a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mehefin 2015.

 

Y trefniadau ariannu presennol ar gyfer y CAHau

 

Fel y nodir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Bil, Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r prif gyllid ar gyfer CAHau ar ffurf grant blynyddol o £120,000 i Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru eu cynnal a'u rheoli.

Mae Cadw yn rhoi swm ychwanegol o tua £30,000 y flwyddyn i'r Ymddiriedolaethau i gefnogi gwasanaethau ymholiadau cyhoeddus mewn perthynas â'r CAHau. Mae'r ACLlau o bryd i'w gilydd yn comisiynu prosiectau llai neu'n darparu grantiau bach er mwyn gwella CAHau yn eu hardaloedd.

 

Ar hyn o bryd, mae CBHC yn cynorthwyo Gweinidogion Cymru gyda’r gwaith o ystyried ceisiadau gan Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru am y grantiau hyn. Mae hefyd yn cynghori Gweinidogion Cymru a wariant yn unol â rhaglen waith y cytunir arni cyn dechrau bob blwyddyn ariannol. Mae’r gwaith monitro hwn yn sicrhau bod CAHau yn gallu parhau i fodloni disgwyliadau a safonau cyfredol a, phan fod angen, gynghori ar raglenni gwella priodol.

 

Mae Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru yn codi rhywfaint o refeniw ychwanegol drwy godi ffioedd am fynediad masnachol i'r CAHau - gwneir hyn ar sail 'adennill costau' a'r bwriad yw talu costau swyddogion a chostau deunyddiau, llungopïo ac ati. Mae gan bob un o'r Ymddiriedolaethau bolisi codi ffioedd a gyhoeddir ar eu gwefan.

 

Ymgysylltu ac ymgynghori

 

Yn 2013, yn dilyn ei ymchwiliad i bolisi amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, argymhellodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y dylid atgyfnerthu statws CAHau yng Nghymru ac y dylid rhoi sail statudol iddynt.

 

Mae rhanddeiliaid yr amgylchedd hanesyddol, yn enwedig o'r gymuned archaeolegol, hefyd wedi galw am CAHau statudol ledled y DU. Rydym mewn sefyllfa well yng Nghymru i gyflwyno mesur o'r fath yn rhannol oherwydd y system unigryw o CAHau rhanbarthol a ddarperir gan Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru a'r trefniadau ariannu presennol.

 

Yn yr ymgynghoriad Dyfodol y gorffennol, cafwyd cefnogaeth gref o blaid rhoi sail fwy sefydlog i'r CAHau. Er mwyn gweithredu ar hyn, cynhaliwyd trafodaeth hir ac adeiladol gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru a CBHC am y camau ymarferol y byddai angen eu cymryd i roi'r cynnig ar gyfer CAHau statudol ar waith.

 

Dyletswydd ar awdurdodau cynllunio lleol

 

Drafftiwyd y Bil i ddynodi bod yn rhaid i 'bob awdurdod cynllunio lleol greu cofnod amgylchedd hanesyddol a chadw'r cofnod yn gyfredol' (adran 33(1)).

Teimlir mai'r ACLlau fyddai'r rhai mwyaf priodol i gyflawni'r ddyletswydd hon. Nhw sy'n defnyddio'r CAHau fwyaf, gan eu defnyddio'n rheolaidd i lywio eu cynlluniau datblygu lleol a'u penderfyniadau ar geisiadau cynllunio. Nhw hefyd sydd yn y sefyllfa orau i nodi pwysigrwydd asedau hanesyddol ac i fonitro newid o fewn eu hardal. Drwy osod y ddyletswydd hon ar ACLlau, bydd yn eu hannog i gydnabod pwysigrwydd creiddiol CAHau i'r gallu i reoli'r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru mewn ffordd ddeallus a chynaliadwy.

Ni fyddai Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru yn gallu ymgymryd â'r ddyletswydd statudol am y CAHau yn uniongyrchol oherwydd eu statws fel ymddiriedolaethau elusennol.


Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau penodol (adran 35) i ganiatáu i awdurdod cynllunio lleol wneud trefniadau i drydydd parti gyflawni'r ddyletswydd honno. Gall dau awdurdod lleol neu fwy hefyd drefnu i gyflawni'r ddyletswydd ar y cyd.

 

Y disgwyliad yw y bydd awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru yn parhau â'u trefniadau cyfredol gydag Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru ar gyfer darparu gwasanaethau CAHau. Mae CLlLC wedi nodi bod awdurdodau yn debygol o fabwysiadu'r dull gweithredu hwn, ac nid yw wedi mynegi unrhyw amheuon sylweddol o ran gosod y ddyletswydd ar y sail honno.

 

Dibynnu ar arbenigedd ac adnoddau'r CAHau presennol, a ddarperir gan Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru, fydd y ffordd fwyaf costeffeithiol o ddarparu'r wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen ar awdurdodau cynllunio lleol a defnyddwyr eraill y CAHau. Bydd parhau i ddarparu gwasanaethau CAHau ar sail ranbarthol yn golygu y gellir rhyddhau digon o adnoddau i gyflogi swyddogion CAH penodol i fod yn gyfrifol am gynnal a dehongli'r cofnodion.

 

Bydd ariannu Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru yn ganolog yn golygu na fydd angen cynnal 25 o negodiadau ar wahân rhwng yr ACLlau a'r Ymddiriedolaethau.

 

Fodd bynnag, os bydd unrhyw awdurdodau cynllunio lleol yn penderfynu peidio â defnyddio Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru i greu a chynnal y CAHau, byddent yn cael eu cyfran o'r cyllid.

 

Cyn ymrwymo i drefniadau ar y cyd neu ymddiried mewn person arall i gyflawni eu dyletswyddau, rhaid i'r awdurdodau cynllunio lleol dan sylw gael cymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru (adran 35 o'r Bil). Diben y ddarpariaeth hon yw bodloni Gweinidogion Cymru fod y trefniadau yn ddigonol i gyrraedd y safonau a'r meincnodau a bennwyd yn y canllawiau statudol.

 

Safonau CAHau a staffio

 

Mae adran 36 o'r Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol ar gyfer y CAHau. Cyhoeddwyd canllawiau drafft, sy'n cynnwys meincnodau a safonau ar gyfer y CAHau, er mwyn gallu eu hystyried ochr yn ochr â'r Bil. Caiff y canllawiau hyn eu diwygio gan ystyried unrhyw newidiadau i'r Bil yn ystod y broses graffu ac wedyn eu cyhoeddi er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn arnynt.

 

Bydd y canllawiau yn ei gwneud yn ofynnol i'r data a ddelir mewn CAHau gyrraedd safonau cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer cofnodion amgylchedd hanesyddol (fel y'u diffinnir gan broffil cydymffurfio Treftadaeth MIDAS).

Bwriedir i'r archwiliad a gynhelir gan CBHC yn ystod 2015 adolygu ansawdd a chynnwys y CAHau. Yn dilyn yr archwiliad, caiff cynllun gwella pum mlynedd ei datblygu ar gyfer pob CAH gyda'r bwriad o ymdrin ag unrhyw ddiffygion a nodwyd. Bydd hyn yn cynnwys trafodaethau â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys awdurdodau lleol.

 

Yn y dyfodol, ar ran Llywodraeth Cymru, bydd CBHC yn monitro safonau a lefelau gwasanaeth pob CAH, ni waeth beth fo'r trefniadau rheoli ar ei gyfer. Bydd yn cydgysylltu ac yn dilysu archwiliadau ar sail cylch pum mlynedd er mwyn adolygu ansawdd data, darparu tystiolaeth o berfformiad a nodi unrhyw anghenion o ran gwella.

 

O dan y trefniadau ariannu presennol, dim ond swyddogion rhan amser sydd ar gael i Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru guradu'r CAHau. Er mwyn cyrraedd y safonau data a gwasanaeth a osodir ar y CAHau statudol, bydd yn rhaid i bob CAH gyflogi un swyddog llawn amser sy'n meddu ar y cymwysterau a'r profiad priodol i reoli ystod estynedig o adnoddau gwybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol.

 

Nodir y cyllid ychwanegol y bydd ei angen i gefnogi'r newid hwn o ran lefelau staffio yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Amcangyfrifir y bydd angen i bob Ymddiriedolaeth dderbyn £20,000 yn ychwanegol bob blwyddyn er mwyn gallu cyflogi swyddog CAH llawn amser.